Cyngor ar Opsiynau Ymddeol

Bydd y penderfyniadau a wneir yn agos at neu wrth ymddeol ymhlith y pwysicaf yn ystod eich bywyd.

Ar y cyfan mae pobl yn byw’n hirach y dyddiau hyn, ac yn cael bywydau iachach, felly gall ymddeoliad barhau am 30 mlynedd neu fwy. Dyna pam mae’n bwysig blaengynllunio i sicrhau y gallwch fwynhau safon byw gyfforddus.

Mae nifer o ffyrdd treth-effeithiol i gael incwm wrth ichi ymddeol. Mae’n faes cymhleth, ac mae angen deall eich amgylchiadau personol er mwyn dewis y cyfrwng cywir.
Mae dwy ran i gynllunio i ymddeol:

CYN YMDDEOL

Dewis y dull cynilo mwyaf effeithiol er mwyn ymddeol, gan ystyried eich oedran, fforddiadwyedd, y dyddiad ymddeol arfaethedig ac unrhyw gynlluniau pensiwn trwy gyflogwyr.

ADEG YMDDEOL

Dewis y ffordd orau a mwyaf effeithiol i dynnu incwm o’ch cynilion, gan ystyried chwyddiant, treth, iechyd ac unrhyw ofynion o ran buddion i ddibynyddion.
Ar 6ed Ebrill 2015, daeth rheolau pensiwn newydd i rym, sy’n rhoi llawer mwy o hyblygrwydd ynghylch defnyddio eich cynilion pensiwn a’r opsiynau sydd ar gael ichi adeg ymddeol.

Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys rhyddid a mynediad at eich cronfa pensiwn cyfan, dewis o safbwynt sut i dderbyn arian sy’n rhydd rhag treth, newidiadau i fuddion marwolaeth a newidiadau i’r cyfraniadau y gellir eu gwneud.

Ymhlith yr opsiynau newydd mae tynnu pensiwn lawr â mynediad hyblyg - does dim cyfyngiad ar yr incwm unigol y gellir ei dynnu o’r gronfa.   Oni bai i chi gymryd incwm yn barod, gellir cymryd 25% o’ch cronfa pensiwn fel cyfandaliad sy’n rhydd rhag treth. Caiff y gweddill ei symud i gronfa/cronfeydd sy’n eich galluogi i gymryd incwm sy’n destun treth ar adegau sy’n gyfleus ichi. Mae’n bwysig cofio fod swm y gronfa â mynediad hyblyg a dynnir i roi incwm ichi yn destun treth ar raddfa dreth incwm ymylol felly os byddwch yn tynnu gormod o incwm gall hyn olygu eich bod yn symud i’r haen treth nesaf, ac arwain at dalu cyfradd treth uwch.

Yr ail opsiwn yw cyfandaliad pensiwn cronfeydd anghrisialedig (UFPLS). Mae hyn yn berthnasol i gronfeydd nad ydynt eisoes yn cael eu tynnu lawr ac yn caniatáu ichi gymryd taliad unigol allan o’ch pensiwn neu gyfres o gyfandaliadau gan adael gweddill y gronfa i gael ei fuddsoddi yn eich pensiwn, mae 25% cyntaf bob UFPLS yn rhydd rhag treth, ac mae’r gweddill yn destun treth. Nid yw UFPLS ar gael o unrhyw ran o’ch pensiwn sydd eisoes wedi cael ei dynnu lawr.

Opsiwn arall eto yw prynu blwydd-dal. I lawer o bobl, hwn fydd yr opsiwn iawn oherwydd mae’n gwarantu incwm am fywyd. Dylid cyfeirio at yr adran ar gymharu blwydd-dal am fwy o wybodaeth. 

Fel arall, does dim rhaid dewis dim ond un opsiwn; gellir dewis cyfuniad sy’n addas ichi.

Cynllunio i ymddeol