Gwarchod Agweddau Ariannol Busnesau

Mae cynllunio at y dyfodol yn hollbwysig i unrhyw fusnes llwyddiannus a gyda’r polisïau cywir yn eu lle, gall helpu cwmni i oroesi a pharhau i fasnachu dan amgylchiadau heriol.

Math o yswiriant yw polisi gwarchod busnes a’i nod yw diogelu busnes yn erbyn colledion ariannol potensial os bydd salwch neu farwolaeth yn effeithio ar berchnogion neu weithwyr. 

Yr Ateb i Warchod eich Busnes

Mae cwmni Rees Astley yn credu fod gwarchod eich busnes yn erbyn digwyddiadau fel hyn fod yn flaenoriaeth allweddol.  Gallwn roi cyngor ar holl feysydd gwarchod busnesau i sicrhau y diwellir anghenion eich cwmni.

Mae Ymgynghorwyr y Cwmni’n gweithio gyda busnesau amrywiol, megis unig fasnachwyr a busnesau teuluol i sefydliadau corfforaethol mwy, i gynnig cyngor ac atebion i agweddau amrywiol ar warchod busnesau.

O’r cychwyn cyntaf, byddwn yn treulio amser er mwyn deall eich busnes, yr unigolion allweddol ac i asesu’r effaith os bydd rhywbeth yn digwydd.  Ar ôl asesu prif bwyntiau’r busnes byddwn yn trafod opsiynau amrywiol gyda chi a’ch cynorthwyo i’w gweithredu.

Ein nod yw sicrhau eich bod yn gwarchod eich busnes yn effeithiol, a thrwy hynny tawelu eich meddwl a rhoi’r gefnogaeth ariannol angenrheidiol i ddigolledu eich busnes.

Gellir defnyddio ffyrdd amrywiol i warchod eich busnes; ymhlith y rhain mae: yswirio unigolion allweddol, diogelu rhanddeiliaid, diogelu benthyciadau yswirio’r bartneriaeth a chynlluniau bywyd perthnasol.

Hefyd mae cynlluniau gwarchod a seilir ar grwpiau ar gael, a gellir trefnu’r rhain ar gyfer gweithwyr fydd yn golygu buddion gwerthfawr i’r staff yn ogystal â diogelu cronfeydd y cwmni yn achos colli aelodau staff am gyfnodau hir oherwydd salwch.

Mae gan lawer o gwmnïau aelodau staff allweddol sy'n hollbwysig i lwyddiant y busnes. Gall colli'r gweithwyr hyn, hyd yn oed am gyfnod byr, arwain at effaith sylweddol ar elw, parhad a hyfywedd hirdymor eich busnes.

Math o bolisi yswiriant bywyd yw yswiriant ar gyfer unigolion allweddol a drefnir gan y busnes ar fywyd gweithiwr allweddol. Os bydd yr unigolyn hwnnw'n marw neu'n dioddef o salwch critigol, byddai'r polisi'n talu cyfandaliad i'r busnes fyddai'n gallu cael ei ddefnyddio i ddigolledu'r busnes am y costau ynghlwm wrth golli'r unigolyn allweddol hwnnw yn ystod y broses o recriwtio a hyfforddi unigolyn arall i gymryd ei le.

Fel cyfarwyddwr y cwmni, rhanddeiliad neu bartner, yn aml iawn, eich busnes yw un o'ch asedau pwysicaf ac fel y cyfryw mae'n bwysig gwarchod perchnogaeth y cwmni.

Os bydd un o berchnogion y busnes yn marw neu'n ddifrifol wael, mae'n bosib na fydd y busnes yn gallu parhau fel arfer, a gall ei gyfranddaliadau trosglwyddo i ŵr neu wraig neu'r teulu fel rhan o'i ystâd bersonol.

Trwy drefnu gwarchod y bartneriaeth neu'r rhanddeiliaid, yn dibynnu ar statws eich cwmni, gellir sicrhau fod dyfodol eich busnes yn ddiogel. Yn achos hawliad dilys byddai'r polisi yn talu cyfandaliad fyddai'n galluogi gweddill perchnogion y busnes i brynu'r cyfranddaliadau, heb orfod benthyg cyllid neu amharu ar lif arian y busnes a sicrhau fod dibynyddion yr unigolyn a fu farw yn cael eu digolledu mewn ffordd briodol.

Bydd gan y rhan fwyaf o gwmnïau ymrwymiadau ariannol megis morgais masnachol, benthyciadau busnes neu orddrafft.

Gellir diogelu'r ymrwymiadau hyn trwy ddefnyddio polisi yswiriant bywyd i warchod benthyciadau. Bydd y cynllun yn talu cyfandaliad i'r busnes yn achos marwolaeth neu salwch difrifol unigolyn allweddol fydd yn galluogi gweddill perchnogion y busnes i dalu unrhyw ymrwymiadau sy'n weddill ar y benthyciad a pharhau i fasnachu fel arfer.

Math o bolisi yswiriant ar gyfer unigolyn sy'n marw yn y swydd i berchnogion busnesau bach yw hwn, os nad yw'n hyfyw sefydlu cynllun ar gyfer marw yn y swydd ar gyfer grŵp oherwydd nifer fach o weithwyr. Mae'r cynlluniau hyn yn ffordd dreth-effeithiol o drefnu yswiriant bywyd i gyfarwyddwyr y cwmni a gweithwyr allweddol.

Diben y polisi yw talu cyfandaliad os bydd yr unigolyn a enwir yn y polisi'n marw neu'n cael diagnosis o salwch critigol yn ystod ei gyfnod fel gweithiwr gyda'r cwmni yn ystod bywyd y polisi. Telir buddion y cynllun i ymddiriedolaeth ddewisol. Fel arfer aelodau teulu a dibynyddion yr unigolyn a yswiriwyd bydd yn elwa o'r ymddiriedolaeth.

Gall yr holl gynlluniau uchod hefyd gynnwys polisi salwch critigol os telir premiwm ychwanegol a bydd yn berthnasol i'r unigolyn a yswirir os caiff diagnosis o salwch critigol sy'n bodloni'r diffiniadau a amlinellir gan y darparwr a ddewiswyd.

Mae gweithwyr da yn hanfodol i lwyddiant unrhyw fusnes. Fel perchennog busnes, mae cynnig pecyn buddion cynhwysfawr i'ch staff yn ffordd wych i annog ffyddlondeb, llesiant a chymhelliant staff.
Trwy sicrhau fod eich gweithwyr a'u teuluoedd yn cael eu gwarchod yn achos salwch, damwain neu farwolaeth rydych yn dangos dyletswydd gofal, ac ystyrir fod y cwmni'n gyflogwr da.  
Mae nifer o fathau gwahanol o fuddion ar gael, sy'n eich galluogi i deilwra cynllun sy'n addas i chi a'ch gweithwyr. Ymhlith rhai o'r opsiynau sydd ar gael mae:

  • Yswiriant Bywyd ar gyfer Grŵp
  • Polisi Salwch Critigol ar gyfer Grŵp
  • Polisi Diogelu Incwm ar gyfer Grŵp
  • Yswiriant Meddygol Preifat ar gyfer Grŵp

Mae llawer o'r buddion hyn hefyd yn dreth-effiethiol, felly mae'n werth cysylltu â ni i gael cyngor i sicrhau fod eich strategaeth mor effeithlon â phosib.

Amddiffyn