Adolygu Cynlluniau'r Sector Cyhoeddus

Cynlluniau pensiwn galwedigaethol yw cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus ar gyfer gweithwyr llywodraeth ganolog neu leol, diwydiant cenedlaethol neu gorff statudol arall.

Gall y pensiynau hyn fod yn hael iawn, ac yn aml maent yn cynnig lefel incwm uchel gwarantedig ar ôl ichi ymddeol.

Os oes gennych fuddion pensiwn ers gweithio yn y sector hwn, neu os ydych dal yn gyflogedig yn y sector hwn ac yn bwriadu ymddeol, efallai y gallwn fod o gymorth ichi.

Rydym yn deall pensiynau’r sector cyhoeddus, a gallwn roi gwybodaeth ichi ynghylch y ddarpariaeth sydd gennych eisoes, yn ogystal â chyngor ar sut y gellir ategu’r incwm yma.

Cynllunio i ymddeol