Adolygu Buddsoddiadau

Mae buddsoddiadau’n chwarae rôl hollbwysig o ran diogelu eich dyfodol ariannol chi a’ch teulu. Mae cymaint o opsiynau buddsoddi ar gael, a chymaint o beryglon potensial hefyd, gall fod yn her i benderfynu lle i fuddsoddi eich arian heb y cyngor cywir.

BETH YW’R GWAHANIAETH RHWNG CYNILO A BUDDSODDI?

Mae cynilo’n ddull o greu cronfa arian sydd â risg isel, a ddefnyddir at ddiben penodol yn aml iawn, dros gyfnod byr. Yr unig beth a ychwanegir at eich arian yw’r llog.

Gellir buddsoddi cynilion a gasglwyd. Defnyddir buddsoddiadau at ddiben creu cyfoeth ac fel arfer mae’n cynnwys arian nad oes ei angen am nifer o flynyddoedd.  Mae mwy o risg ynghlwm wrth fuddsoddi, ond mae potensial hefyd i arwain at enillion uwch.

Mae amrediad anhygoel o gyfryngau cynilo a buddsoddi ar gael, sy’n addas i bob categori risg. Byddem yn cynghori ceisio cyngor ar yr opsiwn sydd fwyaf priodol i’ch anghenion chi.

PWYSIGRWYDD CYNGOR AR FUDDSODDI

Mae llawer mwy ynghlwm wrth greu portffolio o fuddsoddiadau na dewis eich opsiynau; mae’n ystyried cyfleoedd i arbed treth, eich agwedd tuag at risg a buddion yn ogystal â chymharu’r angen am incwm, twf neu’r ddau. Trwy ddewis eich buddsoddiadau’n ddoeth, gallwch ddiogelu eich cyfalaf at y dyfodol.

SUT GALLWN NI HELPu?

Mae nifer fawr o gyfleoedd buddsoddi fyddai’n gallu bodloni eich amcanion ariannol dros y tymor canolig ac yn hirdymor, ac fel Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol, nid ydym yn ymrwymedig i brynu cynnyrch gan ddarparwyr penodol; nid ydym yn cyfyngu ein hunain ychwaith at asedau neu fuddsoddiadau neilltuol - byddwn yn ymchwilio i’r farchnad gyfan i weld beth sydd ar gael.

Trwy ddeall yr hyn hoffech ei gyflawni, a’ch agwedd tuag at risg gallwn lunio strategaeth buddsoddi yn benodol ar eich cyfer chi.

ADOLYGU BUDDSODDIADAU

Hwyrach bod gennych bortffolio o fuddsoddiadau’n barod sydd yn eich barn chi’n perfformio’n iawn; fodd bynnag, yn ystod ein bywydau mae anghenion, blaenoriaethau a nodau’n newid. Yn ein barn ni, mae adolygiadau rheolaidd yn hollbwysig o safbwynt llwyddiant.

Os oes gennych gasgliad o gynilion, buddsoddiadau neu Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA's), ydych chi wedi ystyried y canlynol:

  • Sut mae’ch cronfeydd yn perfformio?
  • Pa ffioedd ydych yn eu talu?
  • Ydych chi wedi buddsoddi gyda’r seibiannau treth cywir?
  • Ydych chi wedi defnyddio’ch lwfansau blynyddol?
  • Ydy’ch portffolio wedi cael ei deilwra i gyd-fynd â’ch agwedd tuag at risg?
  • Ydy’ch portffolio’n amrywiol? A ddosbarthwyd eich buddsoddiadau ar draws dosbarthiadau ased gwahanol?

Bydd ein gwasanaeth adolygu’n eich cynorthwyo i ateb y cwestiynau hyn. Trwy ddadansoddi eich trefniadau presennol, gallwn argymell unrhyw ddiwygiadau priodol lle gellir gwella a gweithio’n well er eich budd chi.

Os hoffech drafod eich buddsoddiadau, cofiwch gysylltu â ni.

Rheoli Buddsoddiadau