Pensiwn Cyflog Terfynol

Os ydych yn ystyried cymryd eich buddion ymddeol trwy gynllun pensiwn eich cyflogwr presennol a/neu gyflogwyr blaenorol, gallwn eich helpu i wneud y defnydd gorau o’ch pensiynau.

BETH FYDD AR GAEL TRWY’R CYNLLUN CYFLOG TERFYNOL?

Bydd cynllun cyflog terfynol yn rhoi incwm gwarantedig am fywyd, gydag ychydig iawn o risg a dim ond ychydig o ymdrech.

Byddwch yn gallu dewis cymryd pensiwn blynyddol, neu gyfandaliad sy’n rhydd rhag treth a llai o bensiwn blynyddol. Bydd y pensiwn fel arfer yn cynyddu’n flynyddol, ac yn aml mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer gŵr/gwraig os byddwch yn marw. 

Mae llawer o bobl o’r farn bod yn rhaid ichi gymryd eich pensiwn o’r cynllun cyflog terfynol. Ond nid dyna’r achos - gellir gofyn am werth trosglwyddo gan y cynllun, a threfnu cymryd eich buddion gan ddarparwr tu allan i’r cynllun.

BETH YW TROSGLWYDDIAD CYFLOG TERFYNOL?

Mae trosglwyddiad cyflog terfynol yn gadael ichi gyfnewid hawl i bensiwn yn y dyfodol mewn cynllun cyflog terfynol neu gynllun pensiwn gyda buddiannau wedi’u diffinio, am gyfandaliad arian sy’n gorfod yn y lle cyntaf cael ei drosglwyddo i gynllun pensiwn cofrestredig neu gynllun a gymeradwyir gan CTEM.

Gall buddion cynllun cyflog terfynol fod yn ased ariannol sylweddol i’r teulu. Trwy ei drosglwyddo, bydd gennych reolaeth dros yr ased, a gellir ei drosglwyddo wedyn o un genhedlaeth i’r nesaf heb orfod talu treth etifeddiant. Trwy drosglwyddo, gallwch fod yn sicr o hyblygrwydd o ran pryd a faint hoffech dynnu o’r gronfa o’i gymharu ag incwm pensiwn penodedig bob mis.

Mae’n rhaid nodi, mae angen ystyried yr opsiwn hwn yn ofalus iawn cyn dilyn y llwybr hwn.

PAM MAE CYNGOR PROFFESIYNOL MOR BWYSIG

O ystyried cymhlethdod a’r risgiau potensial sydd ynghlwm wrth y broses, mae’n hanfodol cael cyngor priodol i’ch helpu penderfynu. Mae dulliau diogel eisoes yn bodoli sy’n golygu bod gofyn cyfreithiol i gael cyngor annibynnol cymwys ar drosglwyddo allan o bensiwn cyflog terfynol sydd gwerth £30,000 neu fwy, cyn ei weithredu.

SUT GALLWN NI HELPU?

Mae gan Rees Astley ymgynghorydd awdurdodedig sy'n arbenigo mewn pensiynau sydd wedi ennill cymwysterau uwch ym maes pensiynau ac sydd wedi derbyn caniatâd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i roi cyngor ar gynlluniau pensiwn cyflog terfynol.

Cynllunio i ymddeol