Cyngor Cydgyfnerthu Pensiynau

Hwyrach eich bod wedi gweithio ers nifer o flynyddoedd ac wedi creu portffolio o bensiynau amrywiol trwy gyn-gyflogwyr.

Gall fod yn anodd gwybod yn union pa gynilion sydd gennych ar gyfer eich ymddeoliad, eu perfformiad, ac os ydynt yn diwallu eich anghenion adeg ymddeol.  Mae’n bosib y gellir anghofio am eich cynlluniau, neu hwyrach y byddant yn cael eu gadael mewn cronfeydd drud, sy’n perfformio’n wael, gyda dewisiadau buddsoddi cyfyng iawn. Gall cydgyfnerthu ateb eich anghenion.

Byddai cymaint yn haws dilyn cynnydd un cynllun, a gall lleihau’r ffioedd rydych yn eu talu efallai.

Mae’n bwysig adolygu eich holl gynlluniau; bydd yn fuddiol i drosglwyddo rhai efallai, hwyrach y bydd cosbau am derfynu eraill neu hwyrach y bydd gwarant werthfawr ynghlwm wrthynt, a dylid eu gadael nes ichi ymddeol. Os ydych yn ansicr - ein cyngor fyddai - gofynnwch am gyngor.

Byddai Rees Astley yn ysgrifennu at eich darparwyr pensiwn presennol a gofyn am fanylion llawn eich cronfeydd, gan ofyn am unrhyw ffioedd, perfformiad eich buddsoddiadau, unrhyw fuddion arbennig sydd ynghlwm wrth y cynllun, rheolau neu amodau, a byddwn yn cymharu’r rhain gyda’r opsiynau sydd ar gael ar y farchnad pensiynau ar hyn o bryd i wneud yn siwr fod eich portffolio pensiynau’n mynd i ddiwallu eich anghenion ac amcanion.