Beth yw YAA

Gweithiwr proffesiynol yw Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol (YAA) sy’n rhoi cyngor diduedd ar faterion ariannol sy’n cael eu teilwra at eich anghenion ac amcanion unigol.

Bydd yn argymell atebion ariannol addas ar ôl adolygu’n fanwl eich sefyllfa ariannol, eich blaenoriaethau a’ch agwedd tuag at risg.  Yn wahanol i wasanaeth cyngor am ddim, neu wybodaeth sydd ar gael ar-lein, bydd cyngor YAA yn ystyried eich holl amgylchiadau personol ac yn cynnig argymhelliad clir ar sut i gyflawni eich amcanion.

Caiff YAA eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) ac mae’n rhaid bodloni gofynion llym o ran cymwysterau a chymhwysedd.

Mae dau fath gwahanol o ymgynghorwyr ariannol i’w cael: ‘cyfyngedig’ neu ‘annibynnol’.

Mae ymgynghorydd ariannol annibynnol yn gallu cynnig amrediad cyflawn o gynnyrch ariannol gan bob cwmni ar draws y farchnad, ac mae’n gorfod rhoi cyngor diduedd a digyfyngiad.

Mae ymgynghorydd cyfyngedig ond yn gallu argymell nwyddau penodol, darparwyr nwyddau neu’r ddau. Efallai y byddant yn edrych ar gynnyrch ariannol trwy asiantau cyfyngedig neu’n rhoi cyngor gan ddetholiad cyfyngedig o ddarparwyr yn unig. Ni ellir disgrifio cyngor ymgynghorydd cyfyngedig fel cyngor ‘annibynnol’.  

Mae tîm ymgynghorwyr ariannol annibynnol Rees Astley yn gallu rhoi cyngor ar amrediad llawn o gynnyrch ar draws y farchnad gyfan; maent yn gallu eich cynorthwyo i reoli eich materion ariannol trwy gydol eich bywyd, eich cynorthwyo i gyflawni targed a osodwyd neu gael hyd i ffyrdd i wella’ch sefyllfa ariannol yn gyffredinol.

Rydym yn gwybod y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol mawr rhywbryd yn ystod eu bywydau, ac fel y cyfryw gallwn ymchwilio i ac argymell yr opsiynau gorau ar eich cyfer a gweithredu’r cynlluniau hyn wrth chwilio am yr atebion gorau sydd ar gael yn y farchnad i chi.