Ym mhob achos, bydd ein hymgynghorwyr yn gweithio’n agos gyda chleientiaid unigol, partneriaid busnes a chwmnïau i wneud y gorau o’u hadnoddau ariannol ac weithiau i helpu lleihau’r dreth a delir.
Mae gan ein Ymgynghorwyr ar Bensiynau, brofiad helaeth yn y maes cymhleth iawn yma, gan gynnwys darparu Pecynnau Buddion i Weithwyr a Phensiynau Cyfranddeiliaid.
Mae Canlyniadau Positif yn dibynnu ar wybodaeth gywir
Ar ôl cytuno i Rees Astley edrych ar ôl eich diddordebau, byddwn yn gwneud adolygiad rheolaidd o’ch amgylchiadau ariannol, er mwyn gwneud yn siŵr fod yr holl wybodaeth gennym i’ch cynorthwyo i wneud y gorau o’ch adnoddau chi.
"Ers i gwmni Technocover Cyf ddechrau defnyddio Rees
Astley 7 mlynedd yn ôl, rydym wedi derbyn gwasanaeth prydlon,
proffesiynol a chyfeillgar dros ben. Yng nghyswllt eu Cynlluniau Pensiwn,
mae ein Gweithwyr a’n Cyfarwyddwyr yn nodi eu bod yn derbyn gwasanaeth a
chyngor personol ardderchog."
Jim Jones, Cyfarwyddwr, Technocover Cyf, Y Trallwng, Powys.