Rydym yn cymryd amser i holi am, gwrando ar a deall y problemau a’r risgiau sy’n wynebu eich busnes chi.
Ar ôl deall yn union y risgiau potensial i’ch busnes, ein nod yw llunio rhaglen reoli risg wedi’i theilwra’n arbennig – heb anghofio mai dim ond un rhan o’r ateb i reoli risg yw yswiriant.
Ar ôl llunio rhaglen reoli risg ac adnabod pa bolisïau yswiriant sydd eu hangen, gallwch ddibynnu arnom i ddefnyddio ein safle yn y farchnad i sicrhau telerau cystadleuol ar eich rhan chi.
Sylweddolwn fod yswiriant yn gost sylweddol i’ch busnes. Ein blaenoriaeth ni yw lleihau’r costau hyn heb beryglu sicrwydd yr yswiriant.
Gyda chwmni Rees Astley yn gefn i chi, gallwch anghofio am ganolfannau galwadau, gwaith papur a thrafferth.
Ar ôl cael hyd i’r polisïau addas i chi am y telerau gorau posib, byddwn wedyn yn delio ag unrhyw hawl os bydd angen, yn sgil colled yswiriedig.