Mae cwmni Rees Astley wedi tyfu o gymunedau mae’n eu gwasanaethu, ac yn cadw gwreiddiau dwfn yn y cymunedau hynny.
Ers ei sefydlu ym 1969, mae’r cwmni wedi tyfu’n raddol mewn maint a chryfder. Erbyn heddiw – gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Y Drenewydd, a Chroesoswallt – rydym wedi ennill ein plwyf fel un o brif gwmnïau Yswiriant ac Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, Sir Amwythig a Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddarparu cyngor arbenigol, proffesiynol ar bob math o yswiriant a chynllunio ariannol, boed i fusnesau neu unigolion, mewn iaith ddealladwy - yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae pob aelod o’n tîm o dros 30 o staff wedi’i hyfforddi a’i drwyddedu, ac yn ymrwymedig i roi cyngor a chymorth cyfeillgar a chefnogol i chi.
Rydym yn falch o’n haelodaeth o Rwydwaith Masnachol Willis, sy’n atgyfnerthu’r perthnasau gwych sydd gyda ni gyda chwmnïau yswiriant, sy’n golygu ein bod yn gallu cynnig yr ystod ehangaf o gwmnïau yswiriant er budd ein cleientiaid.